• Part of
    Ubiquity Network logo
    Publish with us Cyhoeddi gyda ni

    Read Book Online
  •  Read EPUB Now
  • Adrodd ar Dlodi

    Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru

    Kerry Moore

     Read Book
    Buy Paperback

    Click here for the English version of this title: https://doi.org/10.18573/book4

    Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan drafod canfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd a ariannwyd gan ‘Exploring the Narrative Coalition’ (grŵp o 10 sefydliad trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. yr ESRC a Phrifysgol Caerdydd. Gan archwilio sut y mae newyddion am dlodi yn cael sylw gan newyddion darlledu, print ac ar-lein yn Saesneg ac yn Gymraeg, mae’n rhoi dealltwriaeth manwl o arferion presennol newyddiaduraeth a chyfathrebu ar fater hollbwysig sy’n wynebu Cymru.

    Yn sgil degawd o bolisïau cyni, gyda mesurau swyddogol yn cadarnhau bod profiadau o dlodi ac amddifadedd ar gynnydd, mae’r llyfr yn cynnig ymyriad amserol, gan ymchwilio’n feirniadol i naratifau’r cyfryngau prif ffrwd ar dlodi a sut y maent yn cael eu siapio. Mae’r llyfr hwn yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 2016-7, yn ystod cyfnod helbulus sy’n cynnwys argyfwng Tata Steel ym Mhort Talbot. De Cymru, etholiadau Llywodraeth Cymru ac ymgyrch refferendwm am aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n ymdrin â sut y cafodd tlodi ei fframio ynghanol newyddion o bwys cenedlaethol ynghylch gwleidyddiaeth, busnes ac economi yn ogystal â straeon mwy lleol, personol neu o bwys i’r gymuned ynghylch bywoliaeth a materion cymdeithasol.

    Mae dadansoddiad meintiol o nodweddion allweddol yr ymdriniaethau ar draws mathau o gyfryngau gwahanol yn cynnig sylfaen dystiolaeth manwl ar gyfer deall sut y cafodd newyddion ynghylch tlodi ei gynrychioli. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y themâu cyd-destunoli mawr, grwpiau cymdeithasol a lleoliadau daearyddol sy’n cael sylw yn aml, achosion a chanlyniadau tlodi, a chyrchu gwybodaeth. Mae’n arddangos sut mae’r cyfryngau yng Nghymru yn ymateb yn wahanol i’r adroddiadau mwy negyddol sy’n nodweddiadol o rai adrannau gwasg genedlaethol y DU, yn enwedig o ran disgyrsiau sy’n achosi stigma ynghylch diweithdra a lles. Serch hynny, ceir cwestiynau pwysig eu codi ynghylch sut mae naratifau newyddion yn cyfleu ystyr ac yn enwedig y datgysylltiad rhwng y sylw a roddir i dueddiadau neu ddigwyddiadau macro-economaidd a’u heffaith ar fywydau pobl gyffredin.

    Yn ogystal, mae’r llyfr yn archwilio pam fod y sylw a roddir i newyddion am dlodi yn cael ei lunio fel ag y mae, gan ddefnyddio canfyddiadau cyfweliadau manwl gyda newyddiadurwyr a golygyddion am eu harferion. Drwy olwg gwerthoedd a phrofiadau proffesiynol, mae'r llyfr yn ymchwilio'r heriau sy'n debygol o effeithio ar adrodd am dlodi. Ymhlith y materion allweddol mae defnyddio adnoddau ac arbenigedd arbenigol a ddyrennir i newyddiaduraeth materion cymdeithasol, yr anawsterau o ran adnabod a chyrraedd o bosibl grwpiau agored i niwed ledled Cymru a chynrychioli astudiaethau achos yn deg ac yn foesegol. Cynhaliwyd set o gyfweliadau gyda gweithwyr trydydd sector proffesiynol ynghylch eu hymgysylltiad gydag arferion y cyfryngau newyddion a chysylltiadau. Maent yn cynnig mwy o wybodaeth am sut y caiff newyddion am dlodi ei lunio. Yma, ystyrir y pwysau o ran adrodd am dlodi o bersbectif gwahanol, lle gall ceisio dylanwadu sylw tlodi yn y wasg ac ymateb i ofynion newyddion greu tensiynau proffesiynol rhwng newyddiadurwyr a'r trydydd sector a/neu perthnasau cydweithredol cynhyrchiol positif sy'n effeithio ar naratifau'r newyddion.

    Drwy gynnig llun manwl o sut a pham mae naratifau newyddion tlodi wedi'u siapio fel ag y maent, mae'r llyfr yn bwriadu creu sail dystiolaeth fydd yn llywio'r gwaith o adrodd am dlodi yn fwy cywir, cynrychioladol ac ystyrlon yng Nghymru.

    Metrics:

    Recent Activity


    How to cite this book
    Moore, K. 2020. Adrodd ar Dlodi: Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru. Cardiff: Cardiff University Press. DOI: https://doi.org/10.18573/book5
    Moore, K., 2020. Adrodd ar Dlodi: Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru. Cardiff: Cardiff University Press. DOI: https://doi.org/10.18573/book5
    Moore, K. Adrodd Ar Dlodi: Naratif Y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector Yng Nghymru. Cardiff University Press, 2020. DOI: https://doi.org/10.18573/book5
    Moore, K. (2020). Adrodd ar Dlodi: Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru. Cardiff: Cardiff University Press. DOI: https://doi.org/10.18573/book5
    Moore, Kerry. 2020. Adrodd Ar Dlodi: Naratif Y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau’r Trydydd Sector Yng Nghymru. Cardiff: Cardiff University Press. DOI: https://doi.org/10.18573/book5




    Export to:




    License

    This book is distributed under the terms of the Creative Commons Attribution + Noncommercial + NoDerivatives 4.0 license. Copyright is retained by the author(s)

    Peer Review Information

    This book has been peer reviewed. See our Peer Review Policies for more information.

    Additional Information

    Published on Nov. 26, 2020

    Language

    Welsh

    Pages:

    163

    ISBN
    EPUB 978-1-911-65320-2
    Mobi 978-1-911-65321-9
    Paperback 978-1-911-65319-6
    PDF 978-1-911-65323-3

    DOI
    https://doi.org/10.18573/book5