Cyhoeddi gyda ni
Gwybodaeth gyffredinol
Rydyn ni’n gyhoeddwr sefydliadol ar-lein o gyfnodolion electronig, monograffau ymchwil, papurau gweithio, adroddiadau a thrafodion cynadleddau. At ddibenion y canllawiau hyn, diffinnir papurau gweithio fel papurau trafodaethau/ymgynghoriadau yn ymwneud ag ymchwil sy’n mynd rhagddo, a diffinnir adroddiadau fel crynodebau o ymchwil sydd wedi’i gwblhau.
Rydym yn disgwyl bod gan ein cyfrolau monograff gyfanswm geiriau o 20,000-80,000, ond byddwn yn ystyried cyflwyniadau monograffau hirach hefyd.
Mae pob croeso i olygyddion ac awduron darnau gwaith mewn fformatau anhraddodiadol gysylltu â ni i gael canllawiau pwrpasol, os nad yw'r rheiny a ddangosir isod yn berthnasol.
Yng Ngwasg Prifysgol Caerdydd, nid ydym yn goddef llên-ladrad o unrhyw fath yn ein cyhoeddiadau. Mae manylion ein gweithdrefnau yn erbyn llên-ladrad ar gael yma.
Costau a thaliadau
Rydym yn gyhoeddwr Mynediad Agored, sy'n cynnig ein holl gyhoeddiadau yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr ledled y byd, o dan drwydded Comin Creu.
Nid ydym yn codi tâl ar awduron a golygyddion cyfnodolion a chyfresi
nad ydynt yn llyfrau am gyhoeddi gyda ni (Mynediad Agored Diemwnt). Bydd
awduron a golygyddion monograffau nad ydynt yn aelodau o Brifysgol
Caerdydd yn cael eu hanfonebu am Ffi Cyhoeddi Llyfr fechan (Mynediad
Agored Aur).
Mewn rhai
achosion, mae’n bosib y gall Gwasg Prifysgol Caerdydd dalu costau
sylfaenol awdur neu olygydd o Brifysgol Caerdydd am gyhoeddi monograff,
ac felly dim ond anfoneb am opsiynau cyhoeddi ychwanegol y maent wedi
dewis eu harchebu y byddant yn ei chael. Mae’r trefniant hwn ar gyfer
costau sylfaenol cyhoeddi yn amodol ar lefelau cyllido Gwasg Prifysgol
Caerdydd; pan nad oes digon o gyllid ar gael, bydd yr awdur neu’r
golygydd yn cael eu hanfonebu’n
llawn am y Ffi Prosesu Llyfr os ydynt yn penderfynu parhau â’r
cyhoeddiad. Bydd y sefyllfa ariannu yn cael ei chadarnhau gyda’r awdur
neu’r golygydd yn gynnar yn y broses gyhoeddi.
Mae costau sylfaenol cyhoeddi monograff Gwasg Prifysgol
Caerdydd yn amrywio, gan ddibynnu ar sawl ffactor gwahanol megis cyfanswm y
geiriau, nifer y penodau, cynlluniau, pwysau'r papur a ddefnyddir ac yn y
blaen. Mae'r rhan fwyaf o fonograffau yn costio tua £5,500 i £6,000 gan gynnwys
TAW, ond gall cyfrolau hirach neu fwy cymhleth gostio £8,000 neu ragor. Mae
amcangyfrifon cost cyhoeddi ychwanegol dewisol yn amrywio rhwng £120 a £1,400
gan gynnwys TAW, gan ddibynnu ar yr hyn y gofynnir amdano.
Ar gyfer y golygyddion
Rydym yn hapus i ystyried cynigion ar gyfer teitlau newydd. Mae pob croeso i olygyddion sydd eisiau trosglwyddo cyfnodolion neu gyfres o deitlau sefydledig i Wasg Prifysgol Caerdydd wneud cais hefyd. Darllenwch y canllawiau isod ac yna cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Canllawiau ar gyfer cynigion cyfresol (cyfnodolion, cyfres o bapurau gweithio, cyfres o adroddiadau a chyfresi trafodion cynadleddau)
Lawrlwythwch ein ffurflenni cynnig ar gyfer:
Cyfnodolion
Cyfresi trafodion cynhadledd
Cyfresi monograffau, adroddiadau neu bapurau gwaith
- Mae'n rhaid i deitlau gael eu rheoli gan dîm golygyddol annibynnol o arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes, sy'n cynnwys o leiaf un academydd o Brifysgol Caerdydd ac o leiaf un academydd o brifysgol arall.
- Dylai’r themâu a'r meysydd pwnc fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil o leiaf un academydd neu grŵp o academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Dylai galwadau am gyhoeddiadau annog cyflwyniadau gan gyfranwyr rhyngwladol.
- Wrth gyflwyno cynnig i gyhoeddi cyfnodolyn neu gyhoeddiad, bydd yn cael ei adolygu gan Fwrdd Golygyddol Gwasg Prifysgol Caerdydd. Os bydd y cynnig yn llwyddiannus, byddwn yn cytuno ar gontract cyhoeddi gyda’r golygydd ac yn rhoi cyngor iddynt ar sut i lunio dogfen Trwydded i Gyhoeddi ar gyfer eu hawduron.
Canllawiau ar gyfer cynigion monograffau (llyfrau, cyfres o lyfrau, papurau gweithio sengl, adroddiadau sengl a chyfrolau sengl o drafodion cynadleddau)
Lawrlwythwch ein
ffurflenni cynnig ar gyfer:
Cyfresi
monograffau, adroddiadau neu bapurau gwaith
Llyfrau
ysgolheigaidd unigol, cyfrolau unigol wedi’u golygu neu fonograffau unigol eraill
Cyfrolau
sengl o drafodion cynhadledd
- Mae'n rhaid i bob cyfres o lyfrau/cyfres o werslyfrau gael eu rheoli gan dîm golygyddol annibynnol o arbenigwyr cydnabyddedig yn y maes, sy'n cynnwys o leiaf un academydd o Brifysgol Caerdydd ac o leiaf un academydd o brifysgol arall.
- Dylai themâu a meysydd pwnc cyflwyniadau monograff fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil o leiaf un academydd neu grŵp o academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid ydym yn derbyn monograffau sydd wedi'u hanelu'n bennaf at fyfyrwyr israddedig neu aelodau o'r cyhoedd; mae prif ffocws ein holl fonograffau ar ymchwil academaidd.
- Nid ydym yn caniatáu cyflwyniadau i fwy nag un cyhoeddwr ar yr un pryd. Ni chaiff unrhyw fonograff a gyflwynir i ni i’w gyhoeddi fod o dan ystyriaeth i gael ei gyhoeddi gan gyhoeddwr arall ar yr un pryd.
- Cynhelir adolygiadau gan gymheiriaid ar gyfer ein holl gyhoeddiadau monograff gan staff academaidd sydd ag arbenigaeth briodol yn y ddisgyblaeth, a ddewiswyd gan ein Panel Comisiynu Monograffau. Os oes adolygiadau blaenorol gan gymheiriaid yn bodoli ar gyfer monograff a gyflwynir, bydd gennym ddiddordeb i’w gweld, ond bydd ein penderfyniad o ran cyhoeddi’r monograff ai peidio’n seiliedig ar argymhellion ein hadolygwyr cymheiriaid ni, ac nid adolygwyr blaenorol.
- Ni ddylid codi tâl ar ddarllenwyr i gyrchu a lawrlwytho'r gwaith. Bydd awduron a golygyddion monograffau sengl (neu fonograffau sengl mewn cyfres) nad ydynt yn aelod o Brifysgol Caerdydd yn cael eu hanfonebu am Ffi Cyhoeddi Llyfr fechan. Os ydynt yn aelod o Brifysgol Caerdydd, mae’n bosib y bydd Gwasg Prifysgol Caerdydd yn talu costau cyhoeddi sylfaenol eu monograffau, ac felly dim ond anfoneb am opsiynau cyhoeddi ychwanegol y maent wedi dewis eu harchebu y byddant yn ei chael. Mae’r trefniant hwn ar gyfer costau cyhoeddi sylfaenol yn amodol ar lefelau cyllido Gwasg Prifysgol Caerdydd; pan nad oes digon o gyllid ar gael, bydd rhai awduron neu olygyddion Prifysgol Caerdydd yn cael eu hanfonebu am y Ffi Prosesu Llyfr lawn os ydynt yn penderfynu parhau â’r cyhoeddiad. Byddwn yn cadarnhau’r sefyllfa gyllido gyda nhw yn gynnar yn y broses gyhoeddi.
- Os ydych yn ddarpar olygydd sydd eisiau cyhoeddi un gyfrol, mae croeso ichi gyflwyno ffurflen mynegi diddordeb a / neu ffurflen gynnig inni cyn cwblhau’r llawysgrif. Ond, os oes gyda chi llawysgrif lawn yn barod nawr, cyflwynwch y llawysgrif gyda’r ffurflen yn syth.
- Os ydych yn ddarpar olygydd sy'n eisiau cyhoeddi cyfres monograffau (neu gyfres trafodion cynhadledd), bydd angen ichi gwblhau a chyflwyno ffurflen gynnig cyfres a ffurflen gynnig un gyfrol, ynghyd â chyflwyno llawysgrif lawn y gyfrol gyntaf yn y gyfres.
- Dylid nodi nad ydym yn derbyn llawysgrifau copi caled.
- Ar ôl i'ch llawysgrif a'ch ffurflenni ddod i law, bydd ein Panel
Comisiynu Monograffau yn eu hystyried, ac yn eu hanfon i'w hadolygu gan
gymheiriaid os ydynt yn bodloni meini prawf y Panel. Bydd y Panel yn argymell i'r Bwrdd Golygyddol p'un ai i dderbyn neu wrthod ar sail yr adolygiadau a gafwyd gan gymheiriaid a dderbyniwyd ac ymatebion y golygydd neu'r awdur iddynt. Os bydd y gwaith yn cael ei dderbyn i'w gyhoeddi, byddwn yn cytuno ar gontract cyhoeddi gyda’r golygydd neu’r awdur.
- Ar gyfer cyfres monograff, mae'n rhaid i bob cyfrol yn y gyfres gael ei chyflwyno a'i hadolygu gan gymheiriaid ar wahân.
- Rydym yn defnyddio trwyddedau Comin Creu ar gyfer pob gwaith a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caerdydd, gan gynnig dewis o ddau: CC BY-NC (Attribution-NonCommercial) neu CC BY-NC-ND (Attribution-NonCommercial-NoDerivatives). Mae’n rhaid i olygyddion ddewis y drwydded ragosodedig mwyaf priodol ar gyfer pob cyfrol, fel bod modd iddynt sicrhau cydymffurfiaeth â’u cyllidwyr yn y Deyrnas Unedig. Os oes gan gyfrol fwy nag un awdur, fel trafodion cynadleddau, rydym yn caniatáu i awduron unigol ddewis y naill drwydded neu’r llall ar gyfer eu gwaith eu hun, waeth beth yw’r drwydded ragosodedig a ddewisir gan y golygydd, fel bod modd i awduron gydymffurfio â’u cyllidwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae gofyn i olygyddion roi gwybod i awduron bod y dewis hwn ar gael iddynt.
Ar gyfer awduron
Canllawiau ar gyfer cyflwyno cyfresi (erthyglau cyfnodolion, cyfres o bapur gweithio, cyfres o adroddiadau a chyfres o bapurau cynhadledd)
- Bydd canllawiau pob cyhoeddiad yn dynodi a yw'r golygydd am gael y cyflwyniadau drwy e-bost, neu drwy gyfrwng system gyflwyno'r llwyfan cadw. Ar gyfer cyflwyniadau llwyfan, bydd angen i awduron gofrestru ar y wefan hon.
- Caiff cyflwyniadau addas eu hanfon i'w hadolygu gan gymheiriaid a rhaid cwblhau'r broses adolygu gan gymheiriaid cyn i'r tîm golygyddol ddod i benderfyniad terfynol ynghylch derbyn neu wrthod y gwaith.
- Fel cyhoeddwr Mynediad Agored Diemwnt o gyfnodolion a chyfresi, ni fyddwn yn codi tâl ar yr awdur i gyhoeddi erthyglau gyda ni. Bydd testun llawn eu gwaith ar gael am ddim i’w ddarllen ar-lein.
- Rydym yn caniatáu'r awduron i gadw hawlfraint dros eu gwaith. Gofynnir iddynt ddewis rhwng pedair trwydded Comin Creu, a gall golygyddion roi cyngor iddynt ynghylch hynny. Gall awduron hunan-archifo eu gwaith wrth unrhyw gam, ond gofynnwn eu bod yn cydnabod cyhoeddiad Gwasg Prifysgol Caerdydd fel ffynhonnell ddiffiniol eu gwaith, y fersiwn o’r cofnod.
Canllawiau cyflwyno ar gyfer cyfrolau sengl (llyfrau, papurau gweithio sengl ac adroddiadau sengl)
Lawrlwythwch ein
ffurflenni cynnig ar gyfer:
Llyfrau
ysgolheigaidd unigol, cyfrolau unigol wedi’u golygu neu fonograffau unigol eraill
- Nid ydym yn caniatáu cyflwyniadau i fwy nag un cyhoeddwr ar yr un pryd. Ni chaiff unrhyw fonograff a gyflwynir i ni i’w gyhoeddi fod o danystyriaeth i gael ei gyhoeddi gan gyhoeddwr arall ar yr un pryd.
- Dylai themâu a meysydd pwnc monograffau fod yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil o leiaf un academydd neu grŵp o academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd. Nid ydym yn derbyn monograffau sydd wedi'u hanelu'n bennaf at fyfyrwyr
israddedig neu aelodau o'r cyhoedd; mae prif ffocws ein holl fonograffau
ar ymchwil academaidd.
Nid yw traethodau ymchwil doethurol yn addas ar gyfer eu cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caerdydd. Byddwn yn ystyried ysgrifau sy'n seiliedig ar ymchwil ddoethurol, ond rydym yn disgwyl y bydd angen adolygiadau sylweddol ar draethawd ymchwil PhD, ac yn aml rhagor o ymchwil fel ei fod yn addas i'w gyhoeddi fel ysgrif. Am arweiniad pellach ar y gwahaniaethau rhwng traethawd ymchwil ac ysgrif sy'n deillio o draethawd ymchwil, cysylltwch â ni.
- Os ydych yn ddarpar awdur sydd eisiau cyhoeddi un gyfrol, mae croeso ichi gyflwyno ffurflen mynegi diddordeb a / neu ffurflen gynnig inni cyn cwblhau eich llawysgrif. Ond, os oes gyda chi llawysgrif lawn yn barod nawr, cyflwynwch y llawysgrif gyda’r furflen yn syth.
- Dylid nodi nad ydym yn derbyn llawysgrifau copi caled.
- Ar ôl i'r llawysgrif a'r ffurflen ddod i law, bydd ein Panel Comisiynu Monograffau yn eu hystyried, ac yn eu hanfon i'w hadolygu gan gymheiriaid os ydynt yn bodloni meini prawf y Panel. Bydd y Panel yn argymell i'r Bwrdd Golygyddol p'un ai i dderbyn neu wrthod ar sail yr adolygiadau a gafwyd gan gymheiriaid a dderbyniwyd ac ymatebion yr awdur iddynt.
- Cynhelir adolygiadau gan gymheiriaid ar gyfer ein holl gyhoeddiadau monograff gan staff academaidd sydd ag arbenigaeth briodol yn y ddisgyblaeth, a ddewiswyd gan ein Panel Comisiynu Monograffau. Os oes adolygiadau blaenorol gan gymheiriaid yn bodoli ar gyfer monograff a gyflwynir, bydd gennym ddiddordeb i’w gweld, ond bydd ein penderfyniad o ran cyhoeddi’r monograff ai peidio’n seiliedig ar argymhellion ein hadolygwyr cymheiriaid ni, ac nid adolygwyr blaenorol.
- Os bydd y gyfrol yn cael ei derbyn i'w chyhoeddi, byddwn yn cytuno ar gontract cyhoeddi gyda’r awdur neu’r golygydd.
- Bydd awduron monograffau sengl nad ydynt yn aelod o Brifysgol Caerdydd yn cael eu hanfonebu am Ffi Cyhoeddi Llyfr fechan. Os yw awdur yn aelod o Brifysgol Caerdydd, mae’n bosib y bydd Gwasg Prifysgol Caerdydd yn talu costau cyhoeddi sylfaenol eu monograffau, ac felly dim ond anfoneb am opsiynau cyhoeddi ychwanegol y maent wedi dewis eu harchebu y byddant yn ei chael. Mae’r trefniant hwn ar gyfer costau cyhoeddi sylfaenol ynamodol ar lefelau cyllido Gwasg Prifysgol Caerdydd; pan nad oes digon o gyllid ar gael, bydd rhai awduron neu olygyddion Prifysgol Caerdydd yn cael eu hanfonebu am y Ffi Prosesu Llyfr lawn os ydynt yn penderfynu parhau â’r cyhoeddiad. Byddwn yn cadarnhau’r sefyllfa gyllido gyda nhw yn gynnar yn y broses gyhoeddi.
- Bydd testun llawn y gyfrol gyhoeddedig ar gael am ddim i’w darllen ar-lein. Rydym yn caniatáu'r awduron i gadw hawlfraint dros eu gwaith. Gallant ddewis naill ai’r drwydded CC BY-NC (Attribution-NonCommercial) neu'r CC BY-NC-ND (Attribution-NonCommercial-NoDerivatives), gan wneud yn siŵr, felly, eu bod yn cydymffurfio â thrwydded eu cyllidwr yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gofyn bod ein golygyddion cyfresi yn rhoi gwybod i bob awdur monograff yn y gyfres bod y dewis hwn ar gael iddynt. Mae gofyn i olygyddion cyfrolau â mwy nag un awdur wneud hynny hefyd.
- Gall awduron hunan-archifo eu gwaith wrth unrhyw gam, ond gofynnwn eu bod yn cydnabod cyhoeddiad Gwasg Prifysgol Caerdydd fel ffynhonnell ddiffiniol eu gwaith, y fersiwn o’r cofnod.