• Part of
    Ubiquity Network logo
    Publish with us Cyhoeddi gyda ni

    Amdanom ni

    Cyhoeddwr ymchwil academaidd Mynediad Agored ar-lein yw Gwasg Prifysgol Caerdydd (GPCaerdydd), a sefydlwyd yn 2014. Mae’n unigryw ar hyn o bryd gan ei bod yn gweithredu’r model Diemwnt o Fynediad Agored, lle ni chodir tâl ar awduron na darllenwyr (‘cyrraedd am ddim, gadael am ddim’), ar gyfer cyhoeddiadau cyfnodolyn. Arwyddair y Wasg yw ‘Cywirdeb, Amrywiaeth a Pherthnasedd’.

    Mae Gwasg Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi cyfnodolion academaidd a monograffau academaidd.  Mae gan yr holl gyfnodolion fyrddau golygyddol rhyngwladol sydd â chysylltiad â Phrifysgol Caerdydd. Mae’r monograffau’n cynnwys llyfrau, adroddiadau, trafodion cynadleddau a chanlyniadau ymchwil gyda fformatau anhraddodiadol.

    Rydym yn croesawu cynigion am deitlau newydd, neu geisiadau gan olygyddion sydd am drosglwyddo cyhoeddiadau sefydledig i Wasg Prifysgol Caerdydd. Os oes gennych awgrym ar gyfer cyfnodolyn, monograff neu gyfres,
    cysylltwch â ni.

    Gweledigaeth

    Datblygu Gwasg Prifysgol Caerdydd ymhellach yn cyhoeddwr sefydliadol dylanwadol, arloesol sy’n ymrwymedig i arloesedd a rhagoriaeth ym maes cyhoeddi, er budd y byd academaidd a’r gymuned allanol ehangach.

    Cenhadaeth

    Cyhoeddi ymchwil academaidd wreiddiol o safon ar-lein am gost fechan neu ddim cost a heb wneud elw, er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyhoeddiadau yn cydymffurfio ag egwyddorion Mynediad Agored a mandadau cyllidwyr Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI) drwy drwyddedau Comin Creu.

    Nodau

    Adroddiad Blynyddol

    Darllenwch y Trosolwg Adroddiad Blynyddol diweddaraf Gwasg Prifysgol Caerdydd.

    Bwrdd Golygyddol

    Mae’r Bwrdd Golygyddol yn cynnwys staff academaidd Prifysgol Caerdydd, sydd â phrofiad amrywiol, sefydledig o gyhoeddi Mynediad Agored, cynrychiolwyr PhD o'r Brifysgol, ac aelodau o Wasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol sy’n rheoli agweddau gweithredol Gwasg Prifysgol Caerdydd. 

    Swyddogion

    Julie Browne, Cyd-gadeirydd
    Uwch-ddarlithydd,
    Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Hugh Griffiths, Cyd-gadeirydd
    Darlithydd,
    Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.

    Alice Percival, Ysgrifennydd
    Rheolwr Gweithrediadau Gwasg Prifysgol Caerdydd, Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd. 

    Aelodau

    Yr Athro Paul Bowman
    Athro Astudiaethau Diwylliannol,
    Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Julian Brigstocke
    Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
    , Prifysgol Caerdydd.

    Dr Andreas Buerki
    Uwch-ddarlithydd,
    Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd.

    Yr Athro Claire Gorrara
    Deon Ymchwil ac Arloesedd, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, ac Athro Astudiaethau Ffrangeg, Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd.

    Yr Athro Ben Hannigan
    Athro mewn Nyrsio Iechyd Meddwl,
    Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Kate Liddiard
    Cydymaith Ymchwil, Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Ian Rapley
    Darlithydd yn Hanes Dwyrain Asia, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Margot Rubin
    Darlithydd mewn Cynllunio Gofodol, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd.

    Helen Sharp
    Arbenigwr Cyhoeddiadau Ysgolheigaidd,
    Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd.

    Tracey Stanley
    Cyfarwyddwr
    Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd a Llyfrgellydd y Brifysgol.

    Richard Thorne
    Arbenigwr Cyhoeddiadau Ysgolheigaidd, Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd.

    Ruth Thornton
    Pennaeth Ymgysylltu Academaidd,
    Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Enrique Uribe Jongbloed
    Cydymaith Ymchwil Media Cymru, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Thomas Woolley
    Uwch-ddarlithydd,
    Ysgol Mathemateg, Prifysgol Caerdydd.

    Cynrychiolwyr myfyrwyr

    Arwa Al-Mubaddel
    Myfyriwr PhD, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd.

    Angharad Elwyn Jones
    Myfyriwr PhD, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    , Prifysgol Caerdydd.


    Panel Comisiynu Monograffau
    Is-grŵp o’r Bwrdd Golygyddol yw’r Panel Comisiynu Monograffau, gydag un aelod ychwanegol o staff academaidd Prifysgol Caerdydd nad yw'n aelod o'r Bwrdd. 

    Swyddogion

    Dr Julian Brigstocke, Cadeirydd
    Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol,
    Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd.

    Alice Percival, Ysgrifennydd
    Rheolwr Gweithrediadau Gwasg Prifysgol Caerdydd, Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd.

    Aelodau

    Julie Browne
    Uwch-ddarlithydd, Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Hugh Griffiths
    Darlithydd, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.

    Yr Athro Ben Hannigan
    Athro mewn Nyrsio Iechyd Meddwl, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Fernando Loizides
    Uwch-ddarlithydd, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Ian Rapley
    Darlithydd yn Hanes Dwyrain Asia, Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Margot Rubin
    Darlithydd mewn Cynllunio Gofodol, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd.

    Dr Enrique Uribe Jongbloed
    Cydymaith Ymchwil Media Cymru, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd.

    Cynrychiolydd myfyrwyr

    Swydd wag